Isaias Grandis ac Aled Rees
Mae apêl i helpu dyn ifanc o Batagonia fynd i ffeinal Dysgwr y Flwyddyn eleni wedi codi £1,300.
Cyrhaeddodd Isaias Grandis rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn ar ôl cael cyfweliad dros Skype, a bydd ef, Ashok Ahir, Rhian Dickenson, a Mark Morgan yn cystadlu am y wobr yn ystod Eisteddfod Bro Morgannwg ar 8 Awst.
“Mae codi cymaint o arian mewn amser byr yn dangos caredigrwydd y Cymry,” meddai Aled Rees, perchennog cwmni Teithiau Tango, a threfnydd yr apêl.
“Anfonais i e-bost at ein cysylltiadau ni yn gofyn am arian i gynorthwyo Isaias i ddod draw, a dyma ni’n derbyn cyfraniadau di-ri o Gymru a thu hwnt – hyd yn oed o Ganada.”
Cafodd Isaias Grandis ei eni yng ngogledd yr Ariannin ond ar ôl i’w deulu symud i Drefelin ymddiddorodd yn yr iaith Gymraeg, ac mae bellach yn dysgu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith trigolion y dref yng nghesail yr Andes.
Mae Talaith Chubut, trwy law Cyngor Trefelin, wedi cyfrannu arian tuag at hedfan Isaias i Gymru, a dywed Aled Rees fod yr arian a gasglwyd yn helpu i’w gynnal tra ei fod yng Nghymru.
Dywed Isaias Grandis ei fod yn ddiolchgar iawn o’r gefnogaeth, yng Nghymru ac ym Mhatagonia.
Mae cwmni Teithiau Tango wedi rhoi nawdd tuag at anfon dau gynrychiolydd o Gymru i’r Wladfa i hyrwyddo’r iaith, a dywed Aled Rees fod yr iaith yn fyw yno.
“Mae’r cynllun i anfon tiwtoriaid Cymraeg i Batagonia wedi gwneud gwahaniaeth ac mae llawer yn dysgu’r iaith yno ar hyn o bryd” meddai Aled Rees, sy’n briod gydag Archentes ac yn byw yn Aberystwyth.