Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi cyngor ar gyfer yr rheini sy’n bwriadu teithio i’r maes mewn car neu ar drafnidiaeth cyhoeddus eleni.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Os ydych am ddod i’r Maes drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae’r Eisteddfod a Chyngor Bro Morgannwg wedi rhoi tabl amser bysiau gwennol at ei gilydd. Bydd y bysiau’n cwrdd trenau yng ngorsaf Llanilltud Fawr ac yn teithio i’r Maes. Bydd gwasanaeth cyffelyb yn rhedeg rhwng y Maes a’r Bontfaen. Cost y bws fydd £2 un ffordd. Ewch i wefan yr Eisteddfod am gopi o’r amserlen.
I gyrraedd y Bontfaen gallwch ddal bws o Gaerdydd. Bydd y bws X2 yn teithio o Gaerdydd i Benybont ac yn galw yn Y Bontfaen ac yn cyfarfod y bws gwennol. Ewch i wefan Cyngor Bro Morgannwg am gopi o’r amserlen.
Os hoffech chi ddal y bws wennol o Lanilltud Fawr, bydd trenau’n rhedeg yr holl ffordd o Dreherbert i Bontypridd, trwy Gaerdydd ac yr holl ffordd i Lanilltud Fawr ym Mro Morgannwg. Mae’r tren gyntaf yn gadael Caerdydd am 07:41, ac mae’r dren olaf yn gadael Llanilltud Fawr am 21:56. Ewch i wefan y cwmni trenau a chlicio ar Amserlen 5.
Bydd Menter Caerdydd hefyd yn trefnu bysus o Gaerdydd i’r Maes. Cost y bws fydd £5. Ewch i’w gwefan am amserlen lawn ac i archebu tocynnau.
Os ydych chi am ddod i’r Maes ar gefn beic, mae’r Eisteddfod yn darparu 400 o leoedd i gloi beiciau ger y Ganolfan Groeso a’r brif fynedfa. Am fanylion pellach am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.traveline-cymru.info neu ffoniwch 0871 200 22 33.
Mewn car
O’r gorllewin bydd trafnidiaeth yn cael ei gyfeirio oddi ar draffordd yr M4 ar gyffordd 35 Pencoed gan fynd trwy Ewenni a’r ffordd arfordirol i ddod i faes parcio y de gan droi i’r chwith yn y fynedfa. Bydd y maes parcio yma ar gyfer trafnidiaeth o’r gorllewin, o ardaloedd fel Abertawe, Caerfyrddin ac Aberystwyth
O’r dwyrain a gogledd Cymru, bydd trafnidiaeth yn cael ei gyfeirio i gyffordd 33 yr M4, yna, yr A4232 i Groes Cwrlwys, Caerdydd ac yna am Y Barri, Saint Athan a Llanilltud Fawr. Bydd ceir yn cael eu cyfeirio i faes parcio’r dwyrain gan i’r chwith. Dyma’r maes parcio ar gyfer trafnidiaeth o Gaerdydd, y Cymoedd a’r Dwyrain.
Dylai ymwelwyr anabl ddilyn yr arwyddion ar gyfer parcio anabl, sy’n arwain i faes parcio’r dwyrain o bob cyfeiriad. Dim ond un fynedfa sydd i’r Maes eleni ac mae’r maes parcio anabl wedi’i leoli’n agos at y fynedfa hon.
Defnyddiwch y wybodaeth yma, os gwelwch yn dda, ac mae’n bwysig eich bod yn dilyn yr arwyddion swyddogol ar y ffordd i’r Eisteddfod. Mae’r system drafnidiaeth wedi’i chynllunio i geisio sicrhau bod traffig yn symud yn hawdd, felly cadwch at y wybodaeth sydd yma.