Iolo Morganwg
Mae cyhoeddiad newydd gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn dod ag 88 o alawon a gasglwyd gan Iolo Morganwg i olau dydd am y tro cyntaf.

Cyhoeddir Alawon Gwerin Iolo Morganwg, a olygwyd gan Leila Salisbury, yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.

Yno fe fydd Leila Salisbury hefyd yn traddodi Darlith Goffa Amy Parry-Williams ar Alawon Iolo.

“Roedd Iolo Morganwg yn ddyn dawnus ac amlochrog iawn,” medd Leila. “Fe oedd casglwr alawon gwerin cyntaf Cymru, ac mae’r rhan fwyaf o’r alawon yn y gyfrol yn dod o’i fro ei hun, sef Bro Morgannwg, cartref yr Eisteddfod eleni.

“Nododd rhai alawon gyda’u geiriau, ac eraill fel alawon offerynnol yn unig.

“Bydd y casgliad hwn o ddefnydd i gantorion ac offerynwyr gwerin yn ogystal ag ymchwilwyr sy’n ymddiddori yn ein cerddoriaeth werin.’

Yn ogystal â’r alawon a’r caneuon, mae’r gyfrol yn cynnwys rhagymadrodd a nodiadau manwl yn Gymraeg a Saesneg, sy’n rhoi hanes a chefndir y geiriau a’r gerddoriaeth.

Cyhoeddir y gyfrol yn y Stiwdio ar faes yr Eisteddfod am 11.00 fore Mawrth, 7 Awst, lle y bydd y golygydd yn traddodi Darlith Goffa Amy Parry-Williams.

I ddilyn, bydd sesiwn berfformio yn cael ei chynnal ym mhabell Tŷ Gwerin rhwng 3 a 4 fydd yn gyfle i glywed rhai o’r alawon sy’n ymddangos yn y gyfrol.

Pris y gyfrol yw £12.95.