Mae S4C wedi cyhoeddi bod Catrin Roberts wedi ei phenodi yn Bennaeth Partneriaethau y sianel.
Bydd yn ymuno â S4C ym mis Medi.
Dywed llefarydd ar ran y sianel fod gan Catrin dros ddeuddeng mlynedd o brofiad ym maes partneriaethau a gwleidyddiaeth.
Bu’n gweithio gydag aelodau Seneddol ac Ewropeaidd yn Llundain a Brwsel ac yn Swyddog Ymgyrchu Ewropeaidd i’r RNIB.
Yn fwy diweddar bu’n Gynghorydd Materion Cyhoeddus gyda’r BBC yn Llundain, yn Ymgynghorydd Cyfathrebu i BBC Worldwide ac, ers Chwefror 2011, bu’n Uwch Reolwr, Cyfathrebu Corfforaethol gyda BBC Cymru yng Nghaerdydd.
“Mae’n bleser derbyn person mor brofiadol a thalentog â Catrin i S4C,” meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C.
“Bydd y blynyddoedd nesaf yn llawn her i S4C a phrif gyfrifoldebau Catrin fydd cydweithio a chyfathrebu gyda gwleidyddion a gweision sifil yng Nghaerdydd a San Steffan yn ogystal â chryfhau a datblygu cysylltiadau S4C gyda phartneriaid a rhanddeiliaid yng Nghymru a thu hwnt.”