JJ Sneed
Mae perfformiwr sydd wedi poblogeiddio’r ‘sax awyr’ yn dilyn ei berfformiad yng ngŵyl Hanner Cant ddechrau’r mis yn hapus fod ei berfformiad wedi taro tant.

Mae’r ddolen #airsax wedi bod yn trendio ar wefan Twitter diolch i berfformiad JJ Sneed, a gafodd ei ddarlledu ar S4C.

“Fe ddywedais i wrth bawb i dynnu eu saxes nhw mas ac aeth y cyfan o fan yna,” meddai JJ Sneed, sydd hefyd yn cael adnabod fel Alun Reynolds o Bontypridd.

“Mae wedi bod yn eithaf boncyrs gyda phobol yn trydar am y peth a dwi’n cael galwadau o bob cyfeiriad i berfformio a phobol eisiau prynu crys-t #airsax.”

Dywed JJ Sneed ei fod yn bwriadu perfformio’r sacs awyr yn yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg, ble bydd yn rhannu llwyfan gyda Jess ar y nos Sadwrn olaf.

Mae’n bwriadu cynhyrchu ffilm yn ac iddi flas eisteddfodol o’r enw A oes airsax? a fydd yn cael ei darlledu ar ôl yr Eisteddfod.

“Roedd pobol arfer canu’r sacs awyr i gyfeiliant y gân Baker Street a nawr dwi wedi atgyfodi’r peth,” meddai JJ Sneed.

“Do’n i ddim yn disgwyl creu tuedd newydd ond yn y pen draw mae angen i bawb gael bach o sax yn eu bywydau.”

Oes gennych chi lun neu glip fideo ohonoch chi’n chwarae’r sacs awyr? Anfonwch nhw at Golwg360 -gol@golwg.com – ac fe wnawn ni gyhoeddi’r gorau.

Dyma glip o’r airsax a ddangoswyd ar Sianel 62: