Mae allforion defaid a gwartheg werth £240m y flwyddyn i Gymru, datgelwyd heddiw
Dyna’r swm uchaf erioed yn ôl yr asiantaeth hyrwyddo cig coch, Hybu Cig Cymru.
Mae allforio cig oen a chig eidion werth bron i £200m i’r economi, sef £53m yn uwch nag yn 2010. Ar ben hynny mae allforio croen ac offal yn dod â £40m arall i mewn.
Cyhoeddwyd y ffigyrau ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd heddiw.
“Mae hyn yn gamp anferth ac fe ddylai pawb sy’n rhan o’r diwydiant ymfalchïo ynddyn nhw,” meddai Dai Davies, cadeirydd Hybu Cig Cymru.
“Mae allforion cig wedi bod yn hwb anferth i economi Cymru.
“Mae Hybu Cig Cymru wedi bod yn marchnata ein hallforion dramor, gan bwysleisio eu safon uchel. Mae’n amlwg bod gwneud hyn wedi talu ar ei ganfed.
“Mewn blwyddyn yn unig mae gwerth allforion cig eidion o Gymru wedi bron a dyblu, o £35m i £67m.
“Daw hyn wedi cynnydd mawr mewn galw o fewn gwledydd Ewrop, a chyfleoedd newydd yn Sgandinafia a Chanada.
“Yn y cyfamser rydyn ni hefyd yn bwrw ymlaen ag ymdrechion i allforio ein cynnyrch i China, Rwsia a’r Unol Daleithiau.
“Mae Cig Oen o Gymru bellach yn ‘brand’ byd-eang sy’n enwog ledled y byd am ei flas a’i safon.”
Ychwanegodd bod y Sioe Frenhinol yn chwarae rhan wrth hybu allforio cynnyrch Cymru i’r byd.
“Mae yna nifer o westai, yn ddynion busnes ac yn wleidyddion, yn dod yma bob blwyddyn o bob cwr o’r byd,” meddai.