Bydd disgwyl i gwmnïoedd sy’n cynnig cynlluniau er mwyn osgoi talu trethi ddatgelu eu rhestr cleientiaid i arolygwyr, wrth i Lywodraeth San Steffan geisio mynd i’r afael â’r broblem.

Mae disgwyl i weinidogion gyhoeddi heddiw y bydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn targedu cwmnïoedd sy’n cynnig cynlluniau sy’n plygu’r gyfraith.

Daw hyn wedi cyfres o ddatguddiadau ynglŷn â’r diangfeydd ariannol sy’n cael eu defnyddio gan y cyfoethog er mwyn osgoi talu trethi.

Fe fydd Gweinidog y Trysorlys, David Gauke, yn cyhoeddi y byddwn nhw’n enwi cwmnïoedd sy’n cynnig cynlluniau trethi o’r fath ac yn eu cywilyddio nhw.

Mae swyddogion yn ei chael hi’n anodd ymchwilio i bobol sy’n talu eu trethi mewn gwledydd eraill ond fe fydd y cynigion newydd yn gorfodi i gwmnïoedd drosglwyddo manylion eu cwsmeriaid i’r arolygwyr.

Fe fydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn gallu rhybuddio cwsmeriaid ynglŷn â goblygiadau’r cytundebau y maen nhw wedi eu harwyddo, a rhoi gwybod faint o dreth y bydd angen iddyn ei dalu os yw’r cynlluniau trethu yn methu.

“Rydyn ni’n ymestyn y gwaith yr ydym ni eisoes wedi ei gyflawni er mwyn gwneud bywyd yn anodd i’r rheini sy’n mynd ati i dalu llai o drethi,” meddai David Gauke.

“Mae’r cynlluniau yn niweidiol i’n gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ac yn gwneud drwg i fusnesau.

“Maen nhw hefyd yn tanseilio y rhan fwyaf o drethdalwyr, sy’n gorfod talu rhagor o drethi o ganlyniad i’r lleiafrif sy’n osgoi gwneud hynny.”