Murray Strain
Yr Albanwr Murray Strain wnaeth ennill Ras yr Wyddfa heddiw mewn ychydig dros 65 munud.

Ar ôl dod yn ail y llynedd, Strain oedd ar y brig eleni.

Enillydd ras y merched oedd Tessa Hill o Ganada.

Roedd 600 o redwyr wedi cymryd rhan yn y ras eleni. Mae’n ras 10 milltir o hyd, gyda’r rhedwyr yn rhedeg o’r man cychwyn ar gyrion Llyn Padarn i gopa’r Wyddfa ac i lawr yn ôl.

Cynhaliwyd y Ras yr Wyddfa cyntaf yn 1976, gyda 86 o redwyr yn cymryd rhan.