Gareth Delve
Mae Gareth Delve wedi dweud ei fod yn parhau’n obeithiol o gael ei ddewis ar gyfer taith y Llewod i Awstralia’r flwyddyn nesaf.

Mae Delve wedi ymestyn ei gytundeb am flwyddyn arall gyda’r Melbourne Rebels.

Mae’r wythwr yn benderfynol o brofi ei fod yn ddigon da i chwarae dros Gymru, er iddo ennill ond ychydig o gapiau dros ei wlad hyd yma.

‘‘Byddwn wrth fy modd pe bawn yn cael y cyfle.  Dyna fy uchelgais,’’ meddai’r wythwr 29 oed wrth y Western Mail.

Fe wnaeth Delve bron â gorffen ei gyfnod yn Melbourne Rebels a symud i Toulon.  Ond fe benderfynodd aros yno oherwydd pe na bai yn cael ei dewis i gynrychioli’r Llewod, byddai’n cael y cyfle i’w hwynebu mewn gêm ganol wythnos ym Melbourne cyn y profion.