Dutch Ray
Mae cyn-hyfforddwr Pêl-droed Cymru wedi postio sylwadau ymosodol ar Twitter yn rhagweld y bydd ymgyrch y tîm cenedlaethol yng nghwpan y Byd 2014 yn ‘drychineb’.
Defnyddiodd Raymond Verheijen y rhwydwaith cymdeithasol i feirniadu staff Chris Coleman trwy eu galw yn ‘deinosoriaid’, ac hefyd awgrymu mai cynrychioli tîm Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd fydd yr unig gyfle i sêr Cymru fel Craig Bellamy, Joe Allen, Aaron Ramsey a Neil Taylor chwarae mewn prif gystadleuaeth ryngwladol.
Ar ôl yr holl feiriniadu, fe wnaeth ddymuno pob lwc i Dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd, yn enwedig Craig Bellamy, Ryan Giggs, Neil Taylor, Aaron Ramsey a Joe Allen.
Ar hyn o bryd mae Verheijen yn gweithio gyda thîm rhyngwladol Armenia wedi iddo fod yn Rwsia am gyfnod yn eu cynorthwyo yn Ewro 2012.
Roedd ‘Dutch Ray’ yn cael ei gyfrif yn gymeriad allweddol wrth i dîm Cymru wella dan arweiniad Gary Speed, ac roedd yn boblogaidd iawn gyda chwaraewyr fel Craig Bellamy a’r Capten Aaron Ramsey.