Mewn cynhadledd i’r Wasg yng Nghaerdydd y prynhawn yma mae Arweinydd Plaid Cymru wedi beirniadu Dafydd Elis-Thomas am gwyno wrth y Wasg a’r cyfryngau bod ei gyd-aelodau yn gŵn bach gwasaidd i’r Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

“Dyw hi ddim yn dderbyniol, a fydd hi byth yn dderbyniol, bod datganiadau yn cael eu gwneud i’r Wasg cyn eu rhannu gyda thîm y Blaid,” meddai Leanne Wood.

“Mae undod pwrpas wedi bod yn bwysig i’r Blaid erioed. Dyw chwip y Blaid erioed wedi ei thynnu oddi ar aelod etholedig o Blaid Cymru cyn hyn.

“Dydw i ddim yn disgwyl, a fydda i ddim yn derbyn, fod y Blaid yn cael ei hunan yn y sefyllfa hon eto.”

Adfer y chwip

Mae’r chwip wedi cael ei adfer i Dafydd Elis-Thomas, mae yn ôl yng nghorlan Aelodau Cynulliad Plaid Cymru ac ni fydd gwrandawiad disgyblu Ddydd Llun. Roedd Dafydd Elis-Thomas wedi datgan ei fwriad i beidio bod yn bresennol yn y gwrandawiad gan ei fod yn mynd i’r Sioe yn Llanelwedd.

Mae Plaid Cymru wedi dweud ei fod fyny i Dafydd Elis-Thomas gymryd y cam nesaf, ac nad yw’r Blaid wedi ei wthio allan.

Dywedodd Leanne Wood fod yr helynt wedi bod yn “niweidiol” i Blaid Cymru a rhoddodd rybudd clir i Dafydd Elis-Thomas fihafio’i hun ac ufuddhau i’r Arweinyddiaeth, a chadw unrhyw bryderon sydd ganddo o fewn grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad.

“Er fy mod i’n anghytuno gyda fe, rydw i’n parchu’’r ffaith nad yw Dafydd Elis-Thomas yn rhannu safbwynt y grŵp, a safbwynt y grŵp ers tro, ar ddiogelu gwasanaethau iechyd craidd ar lefel gymunedol, a’r angen am atebolrwydd gweinidogol,” meddai Leanne Wood.

“Serch hynny, os oes gan aelod unrhyw bryder am unrhyw fater o gydwybod, yna mae’n rhaid trafod a dadlau hynny o fewn y grŵp er mwyn cyrraedd cytundeb.

“Yn y dyfodol felly, os bydd grwp Plaid Cymru gyda’i gilydd yn dewis cefnogi mater ac ymgyrch benodol, rwy’n disgwyl i bob aelod uno’r tu ôl i hynny, oni bai ei fod yn fodlon dod i’r grŵp ac esbonio a thrafod pam nad ydyn nhw’n medru gwneud hynny.”

Roedd Leanne Wood wedi darllen datganiad wedi ei baratoi rhag-blaen, gan wrthod cymryd cwestiynau’r Wasg ar y diwedd.