Mae un person wedi cael anafiadau difrifol mewn damwain sydd wedi arwain at gau rhan o’r M4.

Roedd y draffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad am awr ar ôl y gwrthdrawiad a ddigwyddodd am 12.40 ger cyffordd 38 ym Margam.

Roedd y person yn teithio ar feic modur i gyfeiriad y dwyrain a dim ond un cerbyd oedd yn rhan o’r digwyddiad medd yr heddlu. Cafodd y person ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty.

Mae’r ffordd i gyfeiriad y gorllewin wedi agor yn llwyr bellach ac mae un lôn i gyfeiriad y dwyrain wedi agor tra bod yr heddlu’n archwilio’r safle.

Mae Heddlu de Cymru yn annog gyrrwyr i osgoi’r ardal gan fod oedi hir i’r ddau gyfeiriad.