Prifysgol Bangor
Mae cynhadledd sy’n cael ei chynnal ym Mangor dros y penwythnos yn gobeithio denu dros 60 o ysgolheigion o bedwar ban byd er mwyn trafod agweddau ar hanes a diwylliant y Celtiaid.

Dyma fydd y gynhadledd astudiaethau Celtaidd gyntaf i gael ei threfnu gan Brifysgol Bangor ac mae disgwyl papurau ar bynciau megis yr ieithoedd Celtaidd, llenyddiaeth a chenedlaetholdeb gan ysgolheigion o’r gwledydd Celtaidd ac o Rwsia, Ffrainc, gogledd America a Gwlad Pŵyl.

Dywedodd trefnydd y gynhadledd, Dr Kate Olson, fod y brifysgol yn “hapus dros ben i groesawu cymaint o ysgolheigion o fri o ledled y byd.”

Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal o ddydd Gwener 20 Gorffennaf i ddydd Llun 23 Gorffennaf ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor.

Ymhlith y prif siaradwyr mae’r Athro Brynley Roberts o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, yr Athro Harry White o Ddulyn, yr Athro Colin Williams o Gaerdydd a’r Athro Nancy Edwards o Fangor.