Ian Tomlinson yn ystod y brotest
Mae plismon wedi ei gael yn ddieuog o gyhuddiad o ddynladdiad Ian Tomlinson yn ystod protestiadau G20 yn 2009.
Dywedodd Pc Simon Harwood, 45, ei fod wedi defnyddio nerth rhesymol pan darodd Ian Tomlinson, 47, gyda’i faton a’i wthio i’r llawr yn ninas Llundain.
Roedd Ian Tomlinson yn alcoholig ac wedi bod yn ddigartref am nifer o flynyddoedd.
Roedd ei weddw a’i lysfeibion Paul a Richard King wedi bod yn Llys y Goron Southwark bob dydd drwy gydol yr achos.
Wrth roi tystiolaeth yn ystod yr achos, dywedodd Simon Harwood ei fod yn “anghywir” iddo daro a gwthio Ian Tomlinson, oedd yn dad i naw o blant, ond nad oedd o wedi sylweddoli hynny ar y pryd.
Dywedodd wrth y rheithgor: “Nawr fy mod i wedi cael y dystiolaeth i gyd ac yn gwybod pa mor wael oedd Mr Tomlinson rydw i’n difaru fy mod i wedi ymyrryd, ac ni ddylwn fod wedi ei daro gyda baton na’i wthio.”
Dywedodd ei fod yn credu bod Ian Tomlinson, oedd yn feddw ar y pryd, yn ceisio bod yn rhwystrol yn fwriadol, ac roedd Harwood yn credu ei fod wedi defnyddio nerth rhesymol.
Clywodd y llys bod Simon Harwood hefyd wedi gwthio protestiwr arall ac wedi gwthio dyn camera i’r llawr.
Dywedodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) y bydd Simon Harwood yn wynebu proses ddisgyblu fewnol gan yr Heddlu Metropolitan yn ddiweddarach yn y flwyddyn ynglŷn â’r digwyddiad.