Lesley Griffiths
Mae’r gwrthbleidiau wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd, LesleyGriffiths heno.

Roedd y gwrthbleidiau wedi cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn Lesley Griffiths yn sgil y ffrae am ba mor annibynnol oedd adroddiad i ad-drefnu gwasanaethau iechyd.

Yn dilyn dadlau brwd yn y Senedd prynhawn ma, fe bleidleisiodd 29 o Aelodau Cynulliad yn erbyn y cynnig a 28 o blaid.

Roedd Mark Drakeford, AC Llafur, wedi beirniadu’r Democratiiad Rhyddfrydol yng Nghymru, Plaid Cymru a’r  Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig.

“Roedd y gweinidog yn haeddu gwell na’r ymosodiad di-chwaeth arni heddiw. Roedd cleifion yng Nghymru yn haeddu dadl well na’r hyn mae’r gwrthbleidiau wedi ei gyflwyno,” meddai.

Gwrthod  honiadau

Roedd Lesley Griffiths wedi dod dan y lach ar ôl i gyfres o ebyst ddangos bod ei swyddogion wedi bod mewn cysylltiad ag awdur yr adroddiad annibynnol, cyn iddo gael ei gyhoeddi.

Roedd yr adroddiad dadleuol yn egluro pam bod angen i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru newid a chael ei ad-drefnu.

Mae’r gwrthbleidiau’n honi bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio dylanwadu ar yr adroddiad.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd y Cynulliad bore ma, dywedodd Lesley Griffiths ei bod yn “gwbl briodol” bod ei gweision sifil mewn cysylltiad â’r academydd yr Athro Marcus Longley – awdur yr adroddiad.

Roedd yr Athro Longley, oedd hefyd yn rhoi tystiolaeth, wedi gwrthod awgrymiadau bod yr adroddiad wedi cael ei liwio gan Lywodraeth Cymru.

‘Diffyg hyder’

Yn dilyn y dystiolaeth bore ma, cafwyd cynnig o ddiffyg hyder yn y Senedd.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones AC: “Yr hyn lwyddodd y Gweinidog Iechyd i wneud o flaen y pwyllgor y bore ma oedd i godi mwy o gwestiynau ynglŷn â pherthynas Llywodraeth Cymru ac awdur yr adroddiad,” meddai Elin Jones.

“Dyw’r anghysondebau heb gael eu hegluro ac mae mwy o anghysondebau wedi dod i’r amlwg.

“Roedd gan y Gweinidog Iechyd gyfle i dawelu’r pryderon ynghylch yr adroddiad, ond cafodd y cyfle yna ddim ei gymryd,” ychwanegodd.

“Oherwydd hynny, does gen i ddim hyder yng Ngweinidog Iechyd Llafur ac mi fydda i’n pleidleisio felly yn hwyrach heddiw.”

Dywedodd llefarydd iechyd y Blaid Geidwadol yng Nghymru Darren Millar bod y dystiolaeth dros yr wythnos ddiwethaf “yn dangos nad oes gan y Gweinidog Iechyd reolaeth o’i hadran” a bod angen arweinyddiaeth gadarn.

Ychwanegodd nad oedd “perfformiad” yr Athro Marcus Longley, na Lesley Griffiths “yn argyhoeddedig a dweud y lleiaf”.

“Mae ’na gonsensws bod yn rhaid i’r GIG newid a bod yn rhaid ad-drefnu. Mae’r pleidiau i gyd yn gytûn am hynny.

“Ond mae angen trafodaeth agored a thryloyw gyda’r cyhoedd ynglŷn â dyfodol y gwasanaethau iechyd, gan eu cynnwys nhw yn y penderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud.

“Nid wyf yn hyderus y bydd hynny’n digwydd tra bod y gweinidog yma yn ei swydd ac felly’n rwy’n annog yr aelodau i gefnogi’r cynnig sydd gerbron heddiw.”