Wrecsam
Mae Cyngor Sir Wrecsam wedi derbyn bron i £20,000 i gael gwared â gwm cnoi oddi ar y stryd.

Bydd Cyngor Gwynedd hefyd yn derbyn £10,000 ar gyfer creu arwyddion i ddweud fod 400 o finiau sbwriel bellach yn derbyn baw ci.

Daw’r arian yn sgil cynllun grantiau newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mewn grantiau sydd werth £816,229, bydd Cyngor Wrecsam yn derbyn £19,686 er mwyn prynu adnoddau i allu cael gwared â gwastraff gwm cnoi oddi ar y stryd.

Bydd 56 o brosiectau Trefi Taclus ledled Cymru’n derbyn grantiau i daclo sbwriel, graffiti, baw cŵn ac ati.

Yn ogystal â Wrecsam, bydd £20,000 yn cael ei roi i Gyngor Castell-nedd Port Talbot er mwyn helpu i lanhau sbwriel a baw cŵn.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, fod hyn yn profi ei “ymroddiad i wella amgylcheddau lleol pobol sy’n byw mewn dinasoedd, trefi a phentrefi yng Nghymru.”