Cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau heddiw fod golygyddion y cylchgrawn llenyddol ‘Taliesin’ wedi sicrhau’r cytundeb dwy flynedd i gyhoeddi cylchgrawn digidol newydd yn fuan.
Bydd Siân Melangell Dafydd ac Angharad Elen yn rhoi sylw penodol i waith awduron newydd.
“Yn dilyn dyfarnu grantiau i gylchgronau Cymraeg ddiwedd 2011, roeddem yn ymwybodol iawn o’r angen i sicrhau darpariaeth ar gyfer awduron newydd, gyda llawer ohonynt yn awduron ifanc,” meddai Richard Owen, Pennaeth Adran Grantiau Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau.
“Bydd pwyslais gan olygyddion y cylchgrawn newydd ar gynnig cefnogaeth i awduron newydd fydd yn gweld eu gwaith yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf. Rydym yn hyderus y bydd y datblygiad hwn yn cael cryn groeso.”
Digidol
Penderfynwyd mai ar ffurf ddigidol yn unig y bydd y cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi.
Ychwanegodd Richard Owen: “Mae gennym bellach ystod dda o gylchgronau print yn y Gymraeg, a bydd ychwanegu cylchgrawn digidol at y dewis yn cyfoethogi’r arlwy ac yn gam ymlaen yn y byd cyhoeddi cylchgronau.”
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Siân Melangell Dafydd ac Angharad Elen, “Bu’n fraint cael gweithio gydag awduron newydd a phrofiadol fel ei gilydd wrth gydolygu’r cylchgrawn Taliesin yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Bydd y fenter newydd hon yn cynnig llwyfan lletach i awduron, gyda mwy o gyfleoedd i arbrofi a thorri cwys newydd,” meddent.