Les Davies
Bydd Les Davies yn herio chwaraewyr fel Andres Iniesta, Cristiano Ronaldo a Lionel Messi am wobr chwaraewr gorau Ewrop ar ôl cael ei ddewis ar y rhestr hir o 32.

Yn frodor o Fangor, mae’r ymosodwr 27 mlwydd oed sy’n 6”3 ac yn pwyso dros 17 stôn, wedi ei enwi ar y rhestr yn dilyn un enwebiad – mae’n debyg gan newyddiadurwr o ogledd Cymru.

Nos Lun, roedd Les Davies eisoes yn dathlu genedigaeth ei drydydd plentyn pan glywodd y newydd syfrdanol.

Pan yn ifanc, cafodd dreialon gyda Everton, Wolves, Sheffield United a Manchester City cyn mynd ymlaen i chwarae i glybiau Glantraeth, Porthmadog a Bangor.

Mae Les Davies hefyd wedi cynrychioli Cymru dan-21 a thîm lled-broffesiynol Cymru.

Bydd seremoni wobrwyo UEFA yn digwydd ym Monaco ar 30 Awst.

Rhestr o 32 sydd wedi ei henwebu am chwaraewr gorau UEFA:

Sergio Agüero (Manchester City), Xabi Alonso (Real Madrid), Mario Balotelli (Manchester City), Jakub Blaszczykowski (Borussia Dortmund), Gianluigi Buffon (Juventus), Iker Casillas (Real Madrid), Petr Cech (Chelsea), Fabio Coentrao (Real Madrid), Les Davies (Dinas Bangor), Didier Drogba (Shanghai Shenhua), Cesc Fabregas (Barcelona), Falcao (Atletico Madrid), Joe Hart (Manchester City), Zlatan Ibrahimovic (AC Milan), Andres Iniesta (Barcelona), Shinji Kagawa (Manchester United), Vincent Kompany (Manchester City), Frank Lampard (Chelsea), Lionel Messi (Barcelona), Luka Modric (Tottenham), Mesut Özil (Real Madrid), Pepe (Real Madrid), Andrea Pirlo (Juventus), Sergio Ramos (Real Madrid), Raúl (Al-Sadd Sports Club), Cristiano Ronaldo (Real Madrid), Wayne Rooney (Manchester United), David Silva (Manchester City), Fernando Torres (Chelsea), Yaya Touré (Manchester City), Robin van Persie (Arsenal), Xavi (Barcelona).