Ryan Giggs
Mae’r Cymro sy’n gapten ar dîm pêl-droed Prydain yn y Gemau Olympaidd wedi dweud yr hoffai weld tîm Prydeinig yn parhau i chwarae mewn Gemau Olympaidd eraill.
Dywed Ryan Giggs fod y cyfle i chwarae ar y lefel uchaf ar y llwyfan rhyngwladol yn gyfle rhy dda i’w wrthod.
“Roedd y cymdeithasau gwahanol wedi bod yn wrthwynebus ond mae’r bobol dwi wedi cwrdd â nhw wyneb yn wyneb wedi bod yn bositif iawn,” meddai asgellwr Manchester United.
“Dwi ddim yn wleidydd ond rwy’n gobeithio gall pêl-droedwyr eraill o Brydain brofi’r hyn rwyf i wedi ei brofi.
“Gobeithio nad dyma’r unig dro i’r tîm chwarae ac y bydd tîm GB mewn Gemau eraill,” ychwanegodd cyn-gapten Cymru.
Mae cyn-gapten arall ar dîm Cymru, Craig Bellamy, hefyd wedi canu clodydd tîm GB.
“Mae wedi bod yn wych. Dwi eisiau coleddu’r foment a’i mwynhau,” meddai asgellwr Lerpwl.
Mae undebau pêl-droed Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi mynegi eu pryder y bydd y tîm Prydeinig cyntaf ers 1960 yn fygythiad i’w hannibyniaeth.
Yn y diwedd cafodd pum Cymro a 13 Sais eu dewis i’r garfan. Y Cymry eraill yw capten presennol Cymru, Aaron Ramsey, a’r ddau Alarch o Abertawe, Neil Taylor a Joe Allen.