Carl Sargeant
Bydd ffordd gyswllt a gostiodd £30 miliwn yn cael ei agor yn swyddogol yn Wrecsam heddiw.
Dechreuodd gwaith ar y ffordd, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn 2010.
Cafodd y ffordd, sy’n hwyluso mynediad i Stad Ddiwydiannol Wrecsam, ei gwblhau o fewn yr amserlen ac o fewn y gyllideb.
Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol, sydd yn agor y ffordd yn swyddogol heddiw.
Roedd disgwyl i’r cynllun gostio £35 miliwn yn wreiddiol.