Mae mudiad newydd Dyfodol i’r Iaith wedi gwadu y bydd hi’n cystadlu gyda Chymdeithas yr Iaith, er y bydd hi’n annog pobol i ymaelodi ac i lobïo o blaid y Gymraeg.
Dywedodd aelod o bwyllgor llywio Dyfodol i’r Iaith fod “gwagle” yn bodoli ar gyfer mudiad newydd a fydd yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru “trwy ffyrdd cyfansoddiadol”.
“Mae rhai pobol yn teimlo na allan nhw ymuno gyda Chymdeithas yr Iaith o achos eu bod nhw’n torri’r gyfraith,” meddai Elin Wyn o Dyfodol i’r Iaith.
“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud gwaith da ond mae ’na le ar gyfer mwy nag un mudiad, fel sydd yna yn y maes amgylcheddol gyda Greenpeace a Chyfeillion y Ddaear.
“Ein hanfod ni fydd lobïo, creu syniadau, a gwneud yn siŵr fod y Llywodraeth yn cadw at ei strategaeth iaith.”
Dywedodd mai gweithgaredd gyntaf Dyfodol i’r Iaith fydd ymateb i ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg ar safonau iaith newydd y mae disgwyl i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â nhw.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud eu bod nhw’n “edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda’r mudiad iaith newydd.”
“Gobeithio y bydd y mudiad newydd yn ymuno â’r rhwydwaith o fudiadau iaith sydd eisoes ar waith – Mudiadau Dathlu’r Gymraeg. Mae’r grŵp ymbarél yna wedi sefydlu Grŵp Trawsbleidiol dros y Gymraeg yn y Cynulliad eleni ac yn gwneud gwaith ardderchog yn pwyso ar wleidyddion y gallai unrhyw fudiad newydd ychwanegu ato,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
Cefnogaeth gan bobol adnabyddus
Ym mis Ionawr galwodd yr academydd Simon Brooks am “grŵp cyfansoddiadol a fydd yn rhoi’r iaith wrth galon y wladwriaeth Gymreig,” ac mae yntau hefyd ar fwrdd llywio Dyfodol i’r Iaith.
Mae’r mudiad eisoes wedi denu cefnogaeth gan unigolion amlwg megis Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, yr Athro Richard Wyn Jones, y cyn Aelodau Seneddol Cynog Dafis ac Adam Price, yr hanesydd Hywel Williams a’r ddarlledwraig Angharad Mair.
Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol bydd Angharad Mair yn cadeirio cyfarfod cyhoeddus cyntaf Dyfodol, a gynhelir am 4 o’r gloch brynhawn dydd Mercher yr Eisteddfod.
Dywed Dyfodol i’r Iaith y bydd ganddyn nhw stondin ar faes yr Eisteddfod a’u bod nhw’n gwahodd pobol “sy’n caru’r iaith Gymraeg” i ymuno gyda nhw. Maen nhw’n bwriadu cyflogi “staff proffesiynol” er mwyn gweithredu rhaglen waith y mudiad.
Fis diwethaf cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n creu uned lobïo newydd, Uned Cyswllt i’r Cynulliad, er mwyn adeiladu ar waith ymgyrchu’r mudiad yn y Cynulliad, ac am gyflogi aelod o staff i arwain y gwaith ar ddechrau tymor nesaf y Cynulliad. Daeth y cyhoeddiad yn dilyn galwad Simon Brooks a sylwebyddion eraill am ffurfio grŵp lobio cyfansoddiadol newydd.