Cafodd y gwasanaeth tân eu galw bore ma yn dilyn tân ar fws ger Aberaeron yng Ngheredigion.

Roedd y ffordd rhwng Ffos y Ffin ac Aberaeron ar gau am rai oriau ond dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod bellach wedi gadael y safle. Mae un lôn ar y  ffordd wedi agor ond mae na oedi o hyd i yrwyr.

Doedd dim teithwyr ar y bws 52 sedd pan ddechreuodd y tân.