Mae cwmni o Gaerdydd yn hedfan ei holl weithwyr i Mallorca am benwythnos hir i ddathlu penblwydd.

Bydd Creditsafe, sy’n darparu gwybodaeth ariannol i fusnesau, yn talu mwy na £300,000 i gludo’r 500 gweithiwr i’r ynys yn Sbaen.

Yn ôl y cwmni mae hi’n werth talu am y gwyliau torfol er mwyn creu “buzz” o fewn y cwmni.