Mae teithiwr wnaeth alw archwiliwr tocynnau tren yn “Welsh maggot” wedi ei erlyn mewn llys yn Llundain.
Fe wnaeth Michael Underwood, 63, sarhau’r casglwr tocynnau Lee Thomas ar ôl iddo gael ei atal rhag dal trên o Liverpool Street, Llundain am fod ei docyn rhy hen.
Roedd Michael Underwood yn cyfaddef iddo ymddwyn yn hiliol, a chytunodd i gadw’r heddwch am flwyddyn.