Mae gwleidyddion yng Nghymru wedi croesawu  cyswllt rheilffordd newydd £500m i faes awyr Heathrow.

Bydd hyn yn golygu bod y daith i deithwyr o dde Cymru hyd at hanner awr yn llai gan na fydd angen mynd i Reading na Paddington Llundain i gyrraedd y maes awyr.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, ei bod yn croesawu’r “buddsoddiad gan Lywodraeth San Steffan a fydd yn cael effaith mor bositif ar Gymru.”

Ychwanedodd bod gan y cyswllt y potensial i hybu twf yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, y byddai’n “hwb i economi Cymru”.