Alun Ffred Jones
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu penderfyniad munud olaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ohirio trafodaethau ar ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd.

Roedd disgwyl i drafodaethau ynglŷn ag ailstrwythuro’r Gwasanaeth Iechyd yng ngogledd Cymru ddigwydd yfory.

Ond mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi penderfynu canslo’r digwyddiad.

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Alun Ffred Jones, “Mae hi’n siomedig iawn fod y bwrdd iechyd wedi penderfynu canslo’r digwyddiad pwysig yma mor hwyr.

“Ledled Cymru, mae cleifion yn colli ffydd yn ei gwasanaethau oherwydd ymgynghori gwael gan y byrddau iechyd a diffyg arweinyddiaeth gan y Gweinidog Iechyd,” ychwanegodd.

“Dydi canslo sesiynau briffio ar y funud olaf ddim yn ddigon da.”

Helynt y Gweindiog Iechyd

Dywedodd llefarydd iechyd y Blaid Geidwadol Darren Millar ei fod yn “siomedig” fod y bwrdd iechyd wedi canslo’r digwyddiad ar fyr rybudd.

“Mae amseru’r penderfyniad i ohirio’r cyfarfod yn rhoi’r argraff ei fod yn gysylltiedig â’r helynt yn ymwneud â’r Gweinidog Iechyd.

“Gydag ad-drefnu eang ar y gorwel, mae’r GIG yn haeddu gonestrwydd, tryloywder a ac atebolrwydd ac mae’n hanfodol bod cynrychiolwyr etholedig yn ymwybodol o’r cynlluniau ar gyfer eu hardal ac nad yw byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau am resymau gwleidyddol.”