Prifysgol Casnewydd
Mae undeb sy’n cynrychioli staff coleg a phrifysgol wedi galw am greu prifysgol newydd yn y De-ddwyrain – gan uno tair prifysgol bresennol.

Mae hynny’n mynd ymhellach na’r cynllun sydd ar droed ar hyn o bryd i uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Casnewydd.

Yn ôl undeb UCU, mae angen creu “prifysgol wirioneddol newydd” yn yr ardal, gan gynnwys Prifysgol Fetropolitaidd Caerdydd hefyd.

Hyd yma, mae Llywodraethwyr y brifysgol honno – UWIC gynt – wedi gwrthod cynlluniau i uno gyda’r ddwy arall.

Mae’r datganiad diweddara’ wedi’i wneud gan UCU Cymru a gan ganghennau’r undeb yn y tair prifysgol.

“Mae UCU Cymru’n credu y byddai creu un Sefydliad Addysg Uwch yn ne-ddwyrain Cymru yn cynnig cyfle delfrydol i greu prifysgol sy’n cynnig addysg o ansawdd uchel, gwaith ymchwil a datblygiad proffesiynol,” meddai Swyddog Cefnogi’r undeb yng Nghymru, Bethan Thomas.

Byddai hefyd yn cyfrannu at agenda ehangach Llywodraeth Cymru, meddai, o ran cymdeithas, economi a diwylliant.