Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi beirniadu’r ffaith fod y Gêmau Olympaidd wedi eu noddi gan gwmnïau bwyd sothach fel McDonalds a Coca Cola.

Yn ei adroddiad blynyddol ola’, mae Dr Tony Jewell yn dweud bod angen gwahardd hysbysebion bwyd brys mewn digwyddiadau chwaraeon.

“Rwy’n credu fod angen i ni dorri’r berthynas rhwng llwyddiant ym myd chwaraeon ac alcohol, diodydd pop a bwydydd brys,” meddai.

“Dyw athletwyr ddim yn cyrraedd y brig drwy fwyta byrgyrs a sglodion, neu drwy yfed cola neu oryfed alcohol yn wirion.

“Fel smygu, dyw’r rhain yn cyfrannu dim at eu gallu ym myd chwaraeon ac, o’u bwyta’n rheolaidd, maen nhw’n cyfrannu at ordewdra a phroblemau iechyd cysylltiedig.”

Hanner yn rhy dew

Yn ôl Tony Jewell, mae hanner pobol Cymru’n rhy dew a dyw un o bob tri ddim yn gwneud unrhyw ymarfer corff. O ganlyniad, meddai, mae afiechydon fel clefyd siwgr a phwysau gwaed uchel ar gynnydd.

Yn ogystal â chael gwell triniaeth, mae’n credu bod angen mynd at achosion y problemau hefyd ac mae’n cyfeirio’n benodol at nawdd i’r Gêmau Olympaidd ac mae’n galw am drin bwydydd a diodydd sothach yn yr un ffordd â smygu.

“Wrth i McDonald’s baratoi i agor ei fwyty mwyaf yn y byd ynghanol y Parc Olympaidd ac wrth i’r noddwr, Coca Cola, ein llethu â’i hysbysebion, dw i am i ni ystyried y cysylltiadau rhwng digwyddiadau chwaraeon, brandiau sy’n hybu bwydydd brys a’n harferion bwyta ni,” meddai.