Llys y Goron Abertawe
Cafwyd mam yn euog o lofruddio ei babi chwe wythnos oed dros bedair blynedd yn ôl trwy ei gwenwyno â chyffur lladd poen.

Yn Llys y Goron Abertawe ddoe, cafodd Michelle Smith ei charcharu am oes a’i gorchymyn i fod dan glo am isafswm o 12 mlynedd.

Wrth iddi gael ei thywys oddi yno, roedd yn dal i brotestio na wnaeth hi’r fath beth.

Ychydig funudau ynghynt, cafodd rheithgor hi’n euog o lofruddio ei merch Amy yn ei chartref yn Nhreforys, Abertawe ym mis Tachwedd 2007.

Roedd y babi 42 diwrnod oed wedi cael ei gwenwyno’n barhaus â’r cyffur lladd poen dihydrocodeine. Dyw’r cyffurf byth yn cael ei ddefnyddio ar babanod ac ond yn anaml ar blant.