Anna Ryder Richardson
Mae’r perchennog parc bywyd gwyllt a chyn-gyflwynydd teledu Anna Ryder Richardson wedi ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o dorri rheolau iechyd a diogelwch yn y parc.

Mae Anna Ryder Richardson, 48, a’i gŵr Colin MacDougall, 46, wedi gwadu dau gyhuddiad dan ddeddf iechyd a diogelwch 1974 ar ôl i gangen o goeden gwympo mewn gwyntoedd cryfion ar ben bachgen 3 oed a’i fam a oedd ar ymweliad â’r parc ym mis Awst 2010.

Fe dreuliodd Gruff Davies-Hughes, 3 oed, o Lanelli tridiau yn uned ofal dwys yr ysbyty ar ôl cael ei gludo yno mewn hofrennydd. Roedd ei fam, Emma Davies-Hughes, 28, hefyd wedi ei hanafu.

Roedd Ryder Richardson yn emosiynol wrth i’r cyhuddiadau yn eu herbyn gael eu darllen yn Llys y Goron Abertawe heddiw.

Fe fydd yr achos yn erbyn y ddau yn cychwyn yn Llys y Goron Abertawe ar 12 Tachwedd.  Cafodd y cwpl eu rhyddhau ar fechniaeth.

Mae’r cwpl yn rhedeg Parc Bywyd Gwyllt Manor House ger Dinbych y Pysgod.

Roedd Anna Ryder Richardson a Colin MacDougall wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau mewn gwrandawiad yn Hwlffordd ym mis Mai. Fe benderfynodd Llys Ynadon Hwlffordd y dylai’r achos gael ei glywed yn Llys y Goron.

Daeth Ryder Richardson, sy’n fam i ddau o blant, i amlygrwydd  am gymryd rhan yn y rhaglen BBC Changing Rooms gyda Laurence Llewelyn-Bowen. Fe roddodd y gorau i’w gyrfa deledu yn 2008 a phrynu safle’r parc 52 acer gyda’i gŵr.

Mae’r achos yn cael ei ddwyn gan isadran diogelu’r cyhoedd Cyngor Sir Benfro.