Fydd Cymru ddim yn cael unrhyw fudd economaidd o bwys oherwydd y Gêmau Olympaidd eleni, yn ôl arbenigwr o Brifysgol Caerdydd.

Mewn gwirionedd, meddai Dr Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd, fe fydd gweddill gwledydd Prydain yn cyfrannu arian a gweithwyr i roi hwb i Lundain.

Mewn erthygl i gylchgrawn y brifysgol mae’n dweud bod y Gêmau eleni wedi eu crynhoi fwy i un ardal fechan nag unrhyw bencampwriaeth erioed.

Mae ei ddadansoddiad yn cadarnhau manylion adroddiad gan Grŵp Bancio Lloyds ddoe, wrth iddyn nhw ddadlau y byddai gwledydd Prydain i gyd yn elwa.

Ond roedden nhw hefyd yn dangos mai Cymru oedd y trydydd o’r gwaelod o’r rhanbarthau economaidd o ran prynu tocynnau ar gyfer y Gêmau a dim ond Gogledd Iwerddon a fyddai’n cael llai o wario ychwanegol gan dwristiaid.

‘Dim hwb economaidd’

“Mwy na thebyg, allwn ni ddim disgwyl unrhyw fath o hwb economaidd arwyddocaol i Gymru oherwydd y Gêmau,” meddai Calvin Jones.

Roedd yn tynnu sylw at adroddiad a wnaed cyn i Lundain ennill yr hawl i gynnal y Gêmau, yn dangos y byddai’r ddinas yn elwa o £5biliwn. Yn ôl Calvin Jones, doedd pobol ddim wedi sylwi bryd hynny mai o weddill gwledydd Prydain y byddai £3 biliwn yn dod.

Er bod Cymru’n cynnal rhai gemau pêl-droed menywod, fyddai hynny ddim yn cael yr un effaith ar dwristiaeth â champ fwy perthnasol fel beicio mynydd.

Prif nod ymddangosiadol y Gêmau, meddai, oedd “sicrhau lles noddwyr sy’n cynnwys Coca Cola, McDonald’s a Cadbury’s”.