Rhys Williams
Mae’r Cymro Rhys Williams wedi cael ei ddewis i redeg y ras 40 metr dros y clwydi yn y Gemau Olympaidd.
Mi wnaeth Rhys ddisgyn yn Nhreialon y Gemau ond fe enillodd y fedal aur yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd yn Helsinki ddydd Gwener diwethaf.
Mae’r rhedwr Christian Malcolm, a Brett Morse, sy’n taflu’r ddisgen, hefyd wedi cael eu dewis ar gyfer tîm Prydain ar gyfer y Gemau.
Mae 28 o athletwyr o Gymru wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn y Gemau. Mae 71 yn perthyn i dîm Prydain i gyd.
Roedd Dai Greene, sy’n dod o Felin-foel ger Llanelli yn wreiddiol, ac sydd hefyd yn rhedeg yn y ras 40 metr dros y clwydi, eisoes wedi sicrhau ei le yntau yn y tîm gan ei fod wedi ennill yn y Treialon Olympaidd ym Mirmingham mis diwethaf.
Bydd Christian Malcolm yn rhedeg yn y ras 200m, ac yn y ras gyfnewid 4x100m er iddo ollwng y baton yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd dros y Sul.
Does dim lle i Gareth Warburton yn y tîm, er bod y rhedwr 800m wedi cyrraedd y safon Olympaidd ddisgwyliedig.