Andy Murray
Ffiw! Dyna’r gri oedd i’w chlywed o amgylch cwrt Rhif 1 yn Wimbledon pnawn ʼma wrth i Andy Murray guro Marin Cilic mewn gêm oedd wedi cael ei gohirio ers ddoe oherwydd y glaw.
Roedden nhw wedi gorfod gadael y cwrt eto heddiw cyn i’r glaw beidio o’r diwedd i alluogi Murray i fynd drwodd i’r rownd gogynderfynol.
Roedd golwg benderfynol iawn ar wyneb Murray wrth iddo chwarae ei denis orau yn ystod y gêm i gymryd y set ola 6-3. Mi wnaeth serfio yn arbennig o dda.
Mi fydd yn ceisio gorffwys yn awr cyn wynebu ei wrthwynebydd nesa yn y gystadleuaeth fory.
Yn y rownd gogynderfynol, bydd yn wynebu David Ferrer o Sbaen wnaeth guro Juan Martin Del Potro o’r Ariannin mewn tair set.