Andy Murray
Bu’n rhaid gohirio gêm Andy Murray yn y bedwaredd rownd yn Wimbledon  am yr ail waith prynhawn ma.

Dim ond pum munud a barodd y gêm rhwng Andy Murray a Marin Cilic cyn i’r glaw roi stop ar y chwarae yn SW19.

Cafodd y gêm ei ohirio pnawn ddoe gyda Murray, 25, ar y blaen o un set i ddim.

Mae’r penderfyniad i roi Andy Murray ar gwrt rhif un, sydd heb do,   wedi cael ei feirniadu gyda rhai yn credu y dylai fod yn chwarae ar y cwrt canol.