Mae’r Sgarlets wedi cyhoeddi mai’r chwaraewr rheng-ôl, Rob McCusker, fydd capten newydd y rhanbarth ar gyfer y tymor nesaf.
Daw’r chwaraewr 26 oed yn wreiddiol o Ogledd Cymru, ac mae wedi chwarae 68 o weithiau dros y rhanbarth.
Yn ôl hyfforddwr newydd y Sgarlets, Simon Easterby, mae McCusker yn arweinydd naturiol ac yn un sy’n ennyn parch a chefnogaeth ei gyd chwaraewyr diolch i’w waith caled ac ymroddiad.
Ar ôl chwarae ochr yn ochr â Rob ac yna’i hyfforddi fel chwaraewyr rwy wedi ei weld yn datblygu ac aeddfedu llawer iawn dros y chwe blynedd diwethaf” meddai Easterby.
“Mae’n sicr wedi gorfod gweithio’n galed iawn i ennill ei gyfle gyda’r Sgarlets a heb edrych nôl ers hynny.”
“Mae ei gyd-chwaraewyr a’i hyfforddwyr yn ei barchu, sy’n allweddol, ac fe fydd yn arwain y tîm o’r blaen a thrwy esiampl, ac rwy’n gwybod y bydd yn gosod y safonau uchaf.”
Datblygiad
Ychwanegodd Easterby bod penodiad McCusker fel capten yn dangos datblygiad y garfan a bod angen arweinydd sy’n gallu cysylltu gydag a meithrin yr holl chwaraewyr ifanc sydd yn y garfan.
Daw McCusker yn wreiddiol o Wrecsam a dechreuodd ei yrfa’n chwarae i glwb rygbi’r Wyddgrug. Fe symudodd i’r Sgarlets a gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Exeter Chiefs yn Awst 2007.
Mae wedi ennill 4 o gapiau dros Gymru – y cyntaf yn erbyn De Affrica yn 2010, a’r diweddaraf yn erbyn y Crysau Duon yr un flwyddyn.
“Rwy’n falch iawn, ac mae’n anrhydedd i gael fy newid fel capten ar ôl chwe blynedd yng nghrys y Sgarlets” meddai McCusker.
“Mae’r rhanbarth wedi fy nghefnogi i drwy gydol fy natblygiad, ac fe fyddai’n gwneud popeth yn fy ngallu i helpu gwireddu potensial y tîm.”
“Mae digon o ysbryd yn y garfan ac mae’r dyfodol yn gyffrous – mae’r chwaraewyr yn edrych ymlaen yn fawr i weld beth allwn ni gyflawn wrth weithio gyda Simon, Mark (Jones) a Danny Wilson.