Andy Murray
Fe fydd Andy Murray yn wynebu Marin Cilic ym mhedwerydd rownd Wimbledon heddiw… os na fydd glaw yn rhwystro’r chwarae.
Fe greodd yr Albanwr hanes nos Sadwrn, pan drechodd Marcos Baghdatis yn y gêm hwyraf erioed yn Wimbledon.
Roedd y dorf yn dechrau poeni y byddai’n rhaid i’r gêm gael ei gorffen heddiwm, ond fe lwyddodd Murray i ennill toc cyn 11 o’r gloch y nos. Mae’n rhaid i bob gêm orffen am 11.
Cilic oedd yn gyfrifol am anfon Murray adre’ o’r US Open yn 2009, ond fe ddaeth Murray yn ei ôl y flwyddyn ddilynol a churo Cilic yn rownd gynta’ Pencampwriaeth Agored Awstralia.
Bwriad Andy Murray ddoe oedd aros yn ei wely’n hwyr ac yna gweld ei ffisiotherapydd.
Geiriau Mam
Judy Murray, mam Andy Murray, ydi capten tim Prydain eleni, ac roedd hi’n siarad ar raglen Breakfast y BBC heddiw, gan ddweud y byddai’r gêm heddiw yn eitha’ her i’w mab.
“Mae’n beth peryglus i edrych yn rhy bell ymlaen, ac rwy’n siwr nad oes neb – yn enwedig Andy – yn edrych y tu hwnt i’r gêm hon.
“Mae Cilic yn chwe throedfedd pum modfedd neu’n chwe throedfedd chwe modfedd… mae’n gofyn lot gan Andy. Mae gan Cilic serf fawr, ac mae’n hoffi chwarae ar laswellt.
“Fe fydd yn rhaid i Andy fod ar ei orau… Pwy wyr os fedr e ennill?”