Gavin Henson
Mae clwb Cymry Llundain wedi awgrymu eu bod nhw’n fodlon arwyddo cyn-chwaraewr Gleision Caerdydd, Gavin Henson, ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Cymry Llundain, John Taylor, eu bod nhw wedi cysylltu â Gavin Henson yn y gorffennol.

“Rydyn ni yn awr yn amlwg yn chwilio am chwaraewyr o safon, ac mae Gavin Henson wedi profi ei fod yn un o’r rheini,” meddai.

“Fe fyddai angen sicrwydd ar Gymry Llundain gan Gavin Henson ei fod yn barod i gadw at reolau’r tîm, ein cyflogau, ac na fyddai yn canolbwyntio ar ei yrfa allanol.”

Dan reolau’r gynghrair bydd rhaid i 15 o’r sgwad o 23 sydd gan glwb Cymry Llundain fod yn gymwys i chwarae dros Loegr.

Cafodd Cymry Llundain wybod ddydd Gwener bod eu hapêl er mwyn cael dyrchafiad i uwch gynghrair rygbi Lloegr wedi llwyddo.

Roedd Undeb Rygbi Lloegr wedi dweud nad oedd hawl gan yr alltudion i esgyn i uwch gynghrair Lloegr, er mai nhw a orffennodd ar frig y Bencampwriaeth, ond penderfynodd panel annibynnol y dylid newid y penderfyniad gwreiddiol.

Terfynwyd cytundeb Gavin Henson â’i gyn-glwb, Gleision Caerdydd, ym mis Ebrill.

Roedd y chwaraewr wedi gorfod ymddiheuro am yfed ac “ymddwyn mewn modd amhriodol” ar awyren o Glasgow i Gaerdydd.

Datgelodd Henson, sydd wedi ennill 34 cap dros Gymru, ei fod wedi mynd allan i yfed ar ôl cael dod i’r cae fel eilydd wrth i’w dîm golli 31-3 yn erbyn Glasgow yn y Pro12.

Parhaodd i yfed y bore wedyn ac wrth hedfan yn ôl adref i Gymru.