Ryan Giggs
Mae Ryan Giggs wedi dweud ei fod wrth ei fodd ers cael gwybod y bydd yn cael bod yn rhan o dîm pêl-droed dynion y Deyrnas Unedig yng Ngemau Olympaidd Llundain.

“Rydw i wedi cyffroi’n lân,” meddai. “Rydw i wedi bod yn Llundain a theimlo’r cyffro yno ar gyfer y gemau Olympaidd, a gweld yr arwyddion ym mhobman.

“Mae’n ddigwyddiad anferth ac rydw i’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan ohono.”

Ond dywedodd ei fod yn siomedig na fyddai cyn-gapten Lloegr, David Beckham, hefyd yn rhan o’r garfan.

Penderfynodd yr hyfforddwr Stuart Pearce mai Ryan Giggs, Craig Bellamy a Micah Richards fyddai’r tri chwaraewr dros 21 oed yn y garfan 18 dyn.

“Mae’n gyfaill da ac fe hoffwn i petai yn y garfan. Ond rydw i’n siŵr y bydd yr hogiau sydd wedi eu dewis yn gwneud eu gorau,” meddai.

“Yn amlwg rydw i’n cydymdeimlo â David ond fe fydd yn dod i delerau â hyn ac yn parhau gyda’i yrfa.

“Swydd Stuart Pearce yw dewis y tîm y mae yn credu y bydd yn ennill y bencampwriaeth a dyna mae o wedi ei wneud.”