Mae rhai cleifion sy’n dioddef o ddryswch meddwl yn gorfod aros am gyfnodau “cywilyddus o hir” cyn cael triniaeth, meddai adroddiad newydd.

Ac mae eu hymchwil yn awgrymu bod y sefyllfa’n waeth yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o wledydd Prydain.

Yn ôl Grŵp o Bob Plaid ar Ddementia yn Nhŷ’r Cyffredin, mae’r amser aros yn amrywio’n sylweddol o un rhan o wledydd Prydain i’r llall, gyda’r amser ar gyfartaledd yn dri mis.

Yng Nghymru, yr honiad yw bod 63% o’r bobol sy’n dioddef o ddementia heb gael diagnosis ac, ym marn cymdeithas Alzheimer Cymru mae lefel gwybodaeth ymhlith meddygon teulu’n arbennig o isel.

‘Angen agwedd gyson’

Mae’r Grŵp yn dweud bod angen agwedd gyson at y cyflwr ar draws gwledydd Prydain a mwy o hyfforddiant i feddygon teulu adnabod y symptomau, sy’n hawdd eu camgymryd am symptomau iselder.

Mae’r Grŵp yn cydweithio’n agos gyda’r Gymdeithas Alzheimer sy’n dweud mai dim ond 43% o gleifion sy’n cael diagnosis.

“Trwy sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth angenrheidiol pan fyddan nhw ei hangen fe allwn ni arbed arian, gan y bydd llai o bobol yn gorfod cael gofal brys drud,” meddai Prif Weithredwr y Gymdeithas, Jeremy Hughes.

Mae Alzheimer Cymru’n canmol strategaeth Llywodraeth Cymru yn y maes ond yn pwysleisio bod angen gweithredu.