Bob Diamond
Mae prif weithredwr Barclays wedi ymddiswyddo, meddai’r banc bore ma.

Fe fydd yn gadael ei swydd yn syth.

Mae’n dilyn ymddiswyddiad cadeirydd y banc Marcus Agius ddoe. Fe fydd Marcus Agius  yn chwilio am brif weithredwr newydd yn syth, meddai Barclays.

Roedd Bob Diamond wedi bod dan bwysau i adael ei swydd yn dilyn yr helynt am ddylanwadu ar gyfraddau llog sy’n cael ei godi gan fanciau i fenthyg i fanciau eraill.

Ddoe, roedd Bob Diamond wedi cyfaddef ei fod yn siomedig bod yr helynt wedi digwydd tra ei fod yn bennaeth.

Ond fe awgrymodd y byddai’n ymladd i gadw ei swydd gan ddweud ei fod am “wneud yn siŵr na fydd hyn yn digwydd eto.”

Mae’r banc eisoes wedi cyhoeddi y bydd adolygiad mewnol i arferion busnes y banc, a ddoe, cyhoeddodd y Prif Weinidog David Cameron y bydd ymchwiliad seneddol yn cael ei gynnal i’r diwydiant bancio.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi dweud bod y Swyddfa Twyll Difrifol yn ystyried a ellir erlyn y rhai oedd yn gyfrifol.

‘Y penderfyniad iawn’

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Barclays gael dirwy o £290 miliwn gan reoleiddwyr yn y DU a’r UDA am ddylanwadu ar y Libor, y gyfradd sy’n cael ei ddefnyddio gan fanciau i fenthyg i fanciau eraill.

Fe gadarnhaodd Bob Diamond y bydd yn parhau i ymddangos gerbron Pwyllgor Dethol y Trysorlys yfory i ateb cwestiynau ynglŷn â’r honiadau.

Mae Bob Diamond, 60, a ymunodd â’r banc 16 mlynedd yn ôl, wedi bod yn gymeriad dadleuol, yn bennaf oherwydd ei daliadau bonws – fe gafodd tua £18 miliwn yn 2011.

Roedd  arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband wedi dweud ddoe nad oedd ymddiswyddiad Marcus Agius  yn ddigon ac roedd wedi galw ar Bob Diamond i roi’r gorau i’w swydd hefyd.

Y bore ma dywedodd Ed Miliband mai dyma’r penderfyniad iawn.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb ar BBC Radio Cymru bore ma nad oedd y cyhoeddiad yn annisgwyl ond bod y mater yn codi cwestiynau am arweinyddiaeth y banciau mwyaf.