Mae elusen a gafodd ei sefydlu er cof am y 200fed milwr i gael ei ladd tra’n gwasanaethu yn Afghanistan, yn mynd i elwa o werthiant seidr Cymreig newydd.

Mae diod afal alcoholaidd Welsh Warrior yn cael ei fragu gan gwmni Seidr Gwynt y Ddraig er mwyn codi arian at Sefydliad y Welsh Warrior – elusen a gafodd ei sefydlu er cof am y Preifat Richard Hunt, ac sy’n helpu milwyr o Gymru neu’r rhai sy’n gysylltiedig â’r catrodau Cymreig, ynghyd â’u teuluoedd.

Heddiw, wrth i’r seidr gael ei gyflwyno i’r byd mewn lansiad yn Aberhonddu, roedd y gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y lluoedd arfog, eu teuluoedd a chyn-filwyr, yn bresennol i gymryd dracht o’r cynnyrch.

“Rwy’n falch o gefnogi’r Welsh Warrior Foundation, ac rwy’n gwybod ei fod yn agos iawn at galon llawer o bobol,” meddai Carl Sargeant.

“Mae elusennau fel hyn yn sicrhau nad yw arwyr sy’n disgyn ar faes y gad yn cael eu hanghofio, ac y gall rhywfaint o ddaioni godi o drasiedïau o’r fath.

“Mawr yw ein dyled i’n lluoedd arfog,” meddai Carl Sargeant wedyn. “Nid yw’n bosib mesur eu swyddogaeth: maen nhw’n gwarchod ein diogelwch ac yn amddiffyn ein rhyddid a’n ffordd o fyw.”