Thomas Sutton
Mae dyn ifanc wedi ymddangos gerbron llys ynadon Pen-y-bont ar Ogwr heddiw wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth.

Mae Stuart Lee Worvell wedi’i gyhuddo o drywanu Thomas John Sutton i farwolaeth, ac o geisio llofruddio Kyle Harris. Roedd Thomas Sutton yn 20 mlwydd oed, ac mae Kyle Harris, sy’n dal yn ddifrifol wael yn yr ysbyty, yn 17 oed.

Mae Stuart Lee Worvell, 22 mlwydd oed, wedi ei gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher yr wythnos hon. Ni wnaeth gais am fechnïaeth.

Mae Heddlu De Cymru yn dal i ymchwilio i ddigwyddiadau nos Fawrth diwetha’ (Mehefin 26) yng nghyffiniau Heol Tonna, Nanytffyllon ger Maesteg.

Gellir cysylltu ag ystafell ymchwilio Heddlu De Cymru ar 01656 306099, neu ffonio i gynnig gwybodaeth yn ddienw ar linell Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.