Wylfa
Mae mudiad gwrth-niwclear PAWB wedi ysgrifennu llythyr agored at Gyngor Sir Ynys Môn yn gofyn pam mae’r awdurdod lleol wedi penodi unigolyn a fu’n gweithio yn y diwydiant niwclear yn Gyfarwyddwr Ynni.
Daeth hyn ar ôl ymadawiad Sasha Davies, sydd wedi ei phenodi’n Gyfarwyddwr Strategol, Cyngor Conwy. Yr wythnos ddiwetha’, daeth cyhoeddiad mai’r Dr John Idris Jones sydd wedi ei benodi i’w hen swydd hi ym Môn.
Yn y llythyr, sydd wedi ei anfon at y wasg a’r cyfryngau heddiw yn enw Robat Idris, mae PAWB am gael gwybod:
- Pryd y cafodd John Idris Jones ei benodi?
- Pwy wnaeth y penodiad?
- A gafodd y swydd ei hysbysebu’n agored?
- Os na chafodd ei hysbysebu, pam ddim?
- Pwy oedd yr unigolion eraill a gafodd eu hystyried ar gyfer y swydd?
- Pwy sy’n talu cyflog John Idris Jones?
- A ydi Cyngor Môn yn fodlon ailystyried y penodiad?
Y llythyr
“Yn dilyn Fukushima, gwelwyd nifer o lywodraethau yn cefnu ar y diwydiant niwclear – yr Almaen yn fwyaf blaenllaw, a hefyd yr Eidal, y Swistir ac eraill, ac erbyn hyn mae hyd yn oed Ffrainc, y wlad Ewropeaidd sy’n dibynnu fwyaf ar atomfeydd, yn bwriadu lleihau’r ddibynniaeth ar ynni niwclear, ac yn lle hynny buddsoddi’n helaeth mewn ynni adnewyddol,” meddai Robat Idris yn y llythyr sydd wedi dod i law golwg360.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach yn ynysig yn ei safbwynt o gefnogi ynni niwclear yng Ngorllwein Ewrop.
“Ar ben hyn oll, gwelwyd nad oedd buddsoddiadau mewn atomfeydd yn gwneud synnwyr economaidd, nac yn atyniadol oherwydd natur tymor hir y buddsoddiad; oherwydd y costau adeiladu sydd, yn hanes pob adweithydd a godwyd yn y gorffennol, yn llawer mwy na’r amcangyfrif gwreiddiol; oherwydd fod buddsoddi mewn ynni adnewyddol yn fwyfwy cystadleuol ac yn cynnig elw cyflymach; a gan fod yna bosibilrwydd real y gellid gweld fod arian cyhoeddus a roddid i’r diwydiant niwclear yn groes i reolau’r Undeb Ewropeaidd.
“Dyma pam y rhoddodd RWE ac EON, y ddau gwmni a ffurfiodd Horizon, y gorau i’w bwriad i adeiladu Wylfa B.
“Felly heb arian gan y trethdalwr, un ai ar ffurf cymhorthdal uniongyrchol, neu drwy addewid am bris uwch am uned o drydan, ’does yna ddim posib i’r atomfeydd newydd gael eu codi ym Mhrydain,” meddai wedyn.
Y penodiad
“Sut mae hyn i gyd yn berthnasol i benodiad Dr Jones?” meddai Robat Idris wedyn. “Yn amlwg, mae’r penodiad yn rhoi arwydd pendant mai ynni niwclear sy’n cael y flaenoriaeth ar Ynys Môn, ac yn benodol cyn belled a mae’r prosiect Ynys Ynni yn y cwestiwn.
“Credwn ni ym mudiad PAWB fod hyn yn mynd yn groes i’r ffordd mae’r diwydiant ynni yn datblygu ar draws y byd, am y rhesymau a roddwyd. Mae’n golygu fod y rhan fwyaf o waith y prosiect yn cael ei gyfeirio at ddenu buddsoddwyr newydd i gwmni Horizon.
“… Y casgliad amlwg i mi o ddarllen yr hyn sydd ar gael yw fod prif ffocws y prosiect Ynys Ynni ar ddatblygu Wylfa B. Yn wir, llun o’r Wylfa A sydd ar wyneb ddalen gwefan Ynys Ynni o fewn gwefan eich Cyngor…
“Credaf fod yn rhaid i ni i gyd gydnabod fod perygl mawr mewn rhoi’r prif obaith am fanna economaidd mewn un atomfa, gyda’r posibilrwydd mawr na chaiff ei hadeiladu p’run bynnag. Dyna pam mae’n ddyletswydd edrych yn ehangach.
“Dyna pam ei bod yn anghyfrifol codi gobeithion cenhedlaeth o ieuenctid heb sicrwydd y gwireddir eu hangen am waith. Dyna pam y dylid ystried strategaethau sydd heb or ddibynnu ar gorfforaethau enfawr sy’n malio am ddim yn y pendraw ond elw iddyn nhw eu hunain.”
Mae Golwg360 yn aros am ymateb gan Gyngor Sir Ynys Môn