Thomas Sutton
Mae disgwyl i  ddyn 22 oed fynd gerbron ynadon Pen-y-bont ar Ogwr heddiw ar gyhuddiad o lofruddio a cheisio llofruddio dau ddyn ym Maesteg.

Bu farw Thomas Sutton, 20, o Gaerau, ar ôl cael ei drywanu tua 9pm nos Fawrth yn Nantyffyllon, ger Maesteg

Mae llanc arall, Kyle Harris, 17, yn ddifrifol wael yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd y Ditectif Prif-Arolygydd Steve Benson-Davison: “Er bod unigolyn wedi ei gyhuddo, rydyn ni’n parhau i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu wrth i’r ymchwiliad barhau.”

Mae Heddlu De Cymru wedi dweud y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio gorsaf heddlu Pen-y-bont ar Ogwr ar  01656 306099 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar  0800 555 111.