Marcus Agius
Mae cadeirydd banc Barclays wedi ymddiswyddo bore ma yn sgil yr helynt am ddylanwadu ar y llog sy’n cael ei godi gan fanciau i fenthyg i fanciau eraill.

Fe gyhoeddodd Marcus Agius ei fod yn ymddiswyddo ar ôl dweud wrth aelodau eraill y bwrdd ddoe.

Fe fydd yn aros yn ei swydd nes bod ei olynydd yn cael ei benodi. Yn y cyfamser mae un o gyfarwyddwyr Barclays, Syr Michael Rake, wedi cael ei benodi yn ddirprwy gadeirydd.

Cafodd Barclays ddirwy o £290 miliwn gan reoleiddwyr y DU a’r UDA wythnos ddiwethaf am ddylanwadu ar y gyfradd Libor.

‘Niwed difrifol i enw da Barclays’

Y bore ma fe ymddiheurodd Marcus Agius i gwsmeriaid, gweithwyr a chyfranddalwyr y banc.

Mae wedi cydnabod bod safonau’r banc wedi bod yn annerbyniol a bod yr helynt wedi gwneud niwed difrifol i enw da Barclays.

Mae’r banc hefyd wedi  cytuno i gynnal archwiliad o’u harferion  busnes sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Mae prif weithredwr Barclays, Bob Diamond, wedi dweud bod penderfyniad Marcus Agius “yn haeddu parch”.

Daw ymddiswyddiad Marcus Agius yn dilyn wythnos hunllefus i’r diwydiant bancio ac mae’n debyg y bydd yr helynt yn rhoi banciau eraill o dan y chwyddwydr.

Ddoe, daeth i’r amlwg bod RBS wedi diswyddo pedwar o staff am eu rôl honedig yn yr helynt ar ddiwedd 2011.

Mae disgwyl i Marcus Agius wynebu Aelodau Seneddol ar Bwyllgor Dethol y Trysorlys ddydd Iau, a hynny er iddo ymddiswyddo heddiw.

Galw ar Bob Diamond i ymddiswyddo

Mae ’na bwysau hefyd ar Bob Diamond, sy’n wynebu’r pwyllgor ddydd Mercher, wrth i gwestiynau gael eu codi ynglŷn â faint roedd yn gwybod am yr helynt.

Mae’r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable wedi cefnogi galwadau am ymchwiliad troseddol i’r bancwyr fu’n gysylltiedig â’r helynt.

Fe fydd adolygiad annibynnol i’r modd mae cyfradd Libor yn cael ei gosod yn y dyfodol yn cael ei sefydlu gan y Llywodraeth yr wythnos hon.

Mae arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn i’r mater.

Wrth ymateb i ymddiswyddiad Marcus Agius heddiw, dywedodd nad oedd hynny’n ddigon ac mae wedi galw eto ar Bob Diamond i ymddiswyddo.

Mae cyfranddaliadau Barclays wedi gostwng rhywfaint bore ma yn dilyn cyhoeddiad Marcus Agius wrth i fuddsoddwyr ystyried goblygiadau ei ymadawiad.