Fe fydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn cynnal rownd derfynol y ‘Super Cup’ Ewropeaidd yn 2014, cyhoeddodd Uefa heddiw.
Bydd enillwyr Cynghrair y Pencampwyr, Chelsea, yn wynebu enillwyr Cynghrair Ewropa, Atletico Madrid, yn y rownd derfynol yn Monaco eleni, ar ddydd Gwener 31 Awst.
Maeddodd Barcelona Porto 2 – 0 yn y gêm derfynol yn 2011.
Mae Stadiwm Stade Louis II Monaco wedi cynnal rownd derfynol y Super Cup bob blwyddyn ers 1998.
Fe fydd Stadiwm Eden Prague yn cynnal y rownd derfynol yn 2013, a Stadiwm Mikheil Meskhi Tbilis yn cynnal y ffeinal yn 2015.