Gareth Bale
Ni fydd Gareth Bale yn chwarae yn nhîm pêl-droed dynion y Deyrnas Unedig ar ôl anafu ei gefn wrth hyfforddi.

Roedd disgwyl i’r dyn 22 oed gael ei enwi yng ngharfan 18 dyn Stuart Pearce, a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Mae’r dewis eisoes wedi bod yn un dadleuol wedi i’r hyfforddwr, Stuart Pearce, benderfynu peidio dewis unrhyw Wyddelod, Sgotiaid na David Beckham.

Y gred yw bod cyn-gapten Cymru, Ryan Giggs, oedd wedi ymddeol o gemau rhyngwladol, wedi ei ddewis yn ei le.

Fe fydd ef, a Craig Bellamy, yn ddau o dri chwaraewr dros 23 oed y mae hawl eu cynnwys yn y sgwad.

Roedd Gareth Bale wedi cefnogi’r penderfyniad i sefydlu tîm pêl-droed Prydeinig er gwaethaf gwrthwynebiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd ym mis Mai’r llynedd mai dyna fyddai cyfle gorau chwaraewyr Cymru i wynebu gwledydd pêl-droed gorau’r byd mewn twrnamaint mawr.