Mae apêl clwb rygbi Cymry Llundain er mwyn cael dyrchafiad i uwchgynghrair rygbi Lloegr wedi llwyddo.

Roedd Undeb Rygbi Lloegr wedi dweud nad oedd hawl gan yr alltudion i esgyn i uwchgynghrair Lloegr, er mai nhw a orffennodd ar frig y Bencampwriaeth, ond heddiw mae panel annibynnol wedi penderfynu newid y penderfyniad gwreiddiol.

Bydd Cymry Llundain yn cael dyrchafiad ac yn ymuno gyda chlybiau megis Caerlŷr a Northampton yn uwchgynghrair Aviva Lloegr tra bod Newcastle, a orffennodd ar waelod yr uwchgynghrair, yn disgyn.

Cafodd y gwrandawiad ei gynnal ddoe yn Llundain gerbron tri bargyfreithiwr a dywedodd Cadeirydd Cymry Llundain, Bleddyn Phillips, fod y clwb wedi cael cefnogaeth eang ers i’r RFU benderfynu nad oedden nhw’n gymwys i gael dyrchafiad.

“Dylai tîm sy’n dangos fod ganddo’r sgiliau a’r adnoddau i orffen ar frig yr adran gael yr hawl i symud ymlaen i’r haen nesaf, a thrwy hynny gynnal yr ysbryd cystadleuol sy’n rhan o fyd chwaraeon,” meddai Bleddyn Phillips.