Rhys Griffiths
Bydd yr ymosodwr Rhys Griffiths yn wynebu ei hen glwb yng ngêm fyw gynta’r tymor newydd, wrth i Lanelli deithio i Bort Talbot.

Cafodd rhaglen y tymor ei gyhoeddi heddiw gan Uwch Gynghrair Cymru.

Ers sefydlu’r ‘Deuddeg Disglair’, mae cynnydd o 26% wedi bod yng nghyfartaledd torfeydd y clybiau o’u cymharu â’r tymhorau blaenorol.

“Rwyf yn edrych ymlaen yn arw at y tymor a’r gêm gynta’n benodol,” meddai Rhys Griffiths ar wefan Uwch Gynghrair Cymru. “Bydd herio Llanelli yn ychwanegu dipyn o awch i’r achlysur.

“Fe gefais amser gwych yn Llanelli ac rwy’n dymuno’r gorau iddyn nhw yn Ewro, ond rwy’n ysu i ddechrau’r tymor newydd gyda Phort Talbot,” ychwanegodd yr ymosodwr.

“Bydd safon y gynghrair yn gwella eto’r tymor yma gan fod cymaint o chwaraewyr o safon wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y deuddeg clwb.”

Mae GAP Cei Conna yn wynebu her ar eu hymweliad cyntaf i’r Uwch Gynghrair ers dwy flynedd wrth iddyn nhw deithio i Fangor.

Bydd Y Seintiau Newydd yn cychwyn eu hymgais i amddiffyn eu coron trwy groesawu Airbus i Groesoswallt.

Dyma’r rhestr lawn o gemau agoriadol yr Uwch Gynghrair ar gyfer y tymor i ddod.

17/08/2012

Bala v Y Drenewydd

Bangor v Gap Cei Conna

Y Seintiau Newydd v Airbus

18/08/2012

Caerfyrddin v Aberystwyth

Port Talbot v Llanelli

Prestatyn v Lido Afan