Mis Mehefin oedd y gwlypaf erioed yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion, datgelwyd heddiw.

Er dechrau’r mis mae mwy na 7 modfedd o law wedi syrthio, dwywaith y cyfartaledd.

Capel Curig yn Eryri oedd y man gwlypaf yn y Deyrnas Unedig yn ystod y mis a aeth heibio, yn ôl ystadegau y Swyddfa Dywydd.

Syrthiodd dros droedfedd o law yno (316mm) yn ystod mis Mehefin, sef dwywaith a hanner y cyfartaledd ar gyfer y mis.

Tirabad ym Mhowys oedd yr wythfed man glwypaf yn y Deyrnas Unedig. Syrthiodd 206mm o law yno.

Arweiniodd y glaw trwm at lifogydd difrifol yng ngogledd Ceredigion ddechrau’r mis. Achubwyd 150 o bobl gan y gwasanaethau brys a bu’n rhaid i tua fil o bobl symud er mwyn osgoi’r llifogydd.

Dechreuwyd cadw cofnodion ar gyfer Gymry yn unig yn y flwyddyn 1910.

Mae proffwydi’r tywydd yn rhagweld y bydd y glaw yn parhau i ddisgyn am gyfnod eto. Does dim unrhyw arwydd o dywydd poeth ar y gorwel, medden nhw.

Daw’r mis Mehefin gwlypaf ers dechrau cadw cofnodion, ar ôl y mis Mawrth poethaf ers 50 mlynedd. Roedd hefyd gyfnod o gynhesrwydd anhymhorol ym mis Mai.

Dywedodd proffwydi’r tywydd bod y glaw yn ganlyniad i newid yn lleoliad y jetlif, sydd fel arfer yn llifo rhwng yr Alban a Gwlad yr Iâ yn ystod yr haf.